Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 10 Ionawr 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:04 - 15:23 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_400000_10_01_2013&t=0&l=cy |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Vaughan Gething William Graham Mike Hedges Elin Jones Darren Millar Julie Morgan Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Mary Burrows, Betsi Cadwaldr University Health Board Yr Athro Peter Donnelly, Deoniaeth Cymru Dr Helen Fardy, Deoniaeth Cymru Yr Athro Derek Gallen, Deoniaeth Cymru Dr Jeremy Gasson, Deoniaeth Cymru Yr Athro Michael Harmer, Y Fforwm Clinigol Cenedlaethol Joanne Barnes-Mannings, Ymwybyddiaeth Asbestos a Chefnogaeth Cymru Hannah Blythyn, Unite Wales Paul Davies, Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru Marie Hughes, Fforwm Grwpiau Cymorth Dioddefwyr Asbestos y DU Lorna Johns, Ymwybyddiaeth Asbestos a Chefnogaeth Cymru Mike Payne, GMB Wales & South West Tony Whitston, Fforwm Grwpiau Cymorth Dioddefwyr Asbestos y DU |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Fay Buckle (Clerc) Llinos Dafydd (Clerc) Steve George (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Olga Lewis (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Victoria Paris (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Lynne Neagle. Roedd Mike Hedges yn dirprwyo ar ran Mick Antoniw ar gyfer eitemau 1-4. Roedd Julie Morgan yn dirprwyo ar ran Vaughan Gething ar gyfer eitemau 1-6.
2. Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1
2.1 Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan Mick Antoniw AC, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, yn ogystal â Vaughan Gething AC, Mr Paul Davies a Mrs Joanest Jackson.
3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
3.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix),penderfynodd y Pwyllgor gyfarfod yn breifat ar gyfer eitemau 4, 7, 8 a 12.
4. Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): trafod tystiolaeth yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil
4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr eitem hon mewn sesiwn breifat.
5. Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 2
5.1 Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan gynrychiolwyr o Ymwybyddiaeth a Chefnogaeth Asbestos Cymru a Fforwm Grwpiau Cymorth Dioddefwyr Asbestos y DU.
6. Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 3
6.1 Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan gynrychiolwyr o undebau llafur y GMB a UNITE.
7. Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): trafod cynghorwyr arbenigol
7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y papur a gofynnodd i’r clercod gysylltu â’r ymgeiswyr a awgrymwyd.
8. Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Briff Ffeithiol
8.1 Cafodd y Pwyllgor friff ffeithiol gan swyddogion Llywodraeth Cymru.
Egwyl
Gohiriwyd y cyfarfod rhwng 12.01 a 13.30
9. Cynlluniau i ad-drefnu byrddau iechyd - tystiolaeth gan Ddeoniaeth Cymru
9.1 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
10. Cynlluniau i ad-drefnu byrddau iechyd - tystiolaeth gan y Fforwm Clinigol Cenedlaethol
10.1 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
11. Papurau i'w nodi
11.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd a 5 Rhagfyr 2012.
11.1 Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Llythyr o'r Llywydd
11.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
11.2 Y Blaenraglen Waith - mis Ionawr i fis Chwefror 2013
11.3 Nododd y Pwyllgor y papur.
12. Y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): trafod y rheoliadau drafft
12.1 Bu’r Aelodau’n trafod y Rheoliadau drafft a chytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Gweinidog i godi’r materion a nodwyd.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.